"Meri Wells - Yr Orymdaith"

by Charmian Saville

Mae'r ffigurau cerameg sy'n cael eu consurio o ddwylo Meri Wells ers 1999, yn dangos rhyw harddwch gwefreiddiol unigryw. Maent yn ddoniol ac yn ysgeler yr un pryd, gan greu sw^ mytholegol - myrdd o wynebau sy'n cyfuno'r ysbrydol, y daearol, y dynol, yr anifail a'r amffibiad. Y tro cyntaf imi gyfwrdd â'r creaduriaid hyn, fe'm trawyd gan eu bywiogrwydd a'r teimlad o symudiad sydd ynddynt ynghyd â'u theatrigrwydd pwerus. Wrth ddyfalu am deyrnasoedd eu cyfeiriadaeth a'u tarddiad, wrth gael eich ysgogi gan y gwaith i wneud y cymariaethau, mae rhywun yn plymio i emporiwm dychmygus, anferthol, yn llawn adleisiau o'r cerfiadau a welir mewn eglwysi hynafol, lle y bydd anifeiliaid yn ymdoddi â delweddaeth ddynol; ceir adleisiau hefyd o waith Hieronymus Bosch, Lewis Carroll, Christina Rossetti, C.S. Lewis, Heinrich Hoffman, Mervyn Peake, Ted Hughes a Nigel Wells. Daw rhai eraill i'r meddwl, wrth gwrs, yn rhy niferus i sôn amdanynt, ond mae'r ysgyrion a theilchion celf hyn yn cael eu cymysgu, yn llythrennol ac yn drosiadol, â natur, ei lliw a'i llun, a deallusrwydd dwysfiniog yr artist. Mae'r 'deunydd breuddwydion' yma'n cael ei asio â grymoedd gwyllt, elfennol y gwynt, y môr a'r afonydd a'u stumio ganddynt i greu ffurf unigryw. Mae'r gweadau'n llyfn gan eich annog i gyffwrdd â nhw, megis cerrig mân wedi'u llyfnu gan y tonnau a dyfroedd y dilyw. Gall fod y lliwiau yn dod o'r onnen neu eithin llosg, rhedyn a mieri neu'r pridd o'r ddaear o gwmpas Caecarrog, y bwthyn anghysbell sy'n nythu dan fron y mynydd lle y bu Meri'n byw dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf.

Wrth groesi rhiniog gweithdy Meri dyma dri thorso mawr cerameg yn fy nghroesawu, eu pennau maint pen plant bach. Dwi'n eu mwytho; maent yn ffitio i gledr fy llaw. Pen dynol sydd gan y cyntaf â thrwyn cryf, amlwg (nodwedd gyson ar lawer iawn o wynebau Meri); clustiau arth sydd ganddo, a llygaid sy'n edrych i fyny, yn cwestiynu, yn gwrando fel aderyn. Mae'r fraich unigol yn edrych yn gryf, fel pe bai wedi'i rhoi mewn poced. Mae'r corff ychydig yn geugrwm, â llinellau traed brain drosto i gyd. Yn wargrwm, fel pe bai'r gwynt yn ei blygu o'r tu blaen tra'n cael ei bwcro yr un pryd o'r tu ôl. Fel arfer, bydd y motif yma i'w weld yn y ffigurau y bydda i'n eu galw'n "bennau maluriedig corniog". Mae'r ffordd y mae trem y pen yn gwrthdynnu fry, gwthiad y fraich am lawr, yr ysgwyddau wedi'u gwargrymu a'r torso ceugrwm, i gyd yn cyfrannu at fywiogrwydd sy'n cwmpasu hiwmor, drwgdybiaeth, chwilfrydedd, diniweidrwydd a chryfder. Mae gallu Meri Wells i gyflwyno symudiad ac ymwadiad ohono mewn clai wedi'i danio'n rhyfeddol. Mae'r ail dorso'n ategu'r un gamp o hudo'r annisgwyl o ffurf solet: Dros gorff y "Rainey Foxfriar" hwn (dwi'n ei lysenwi felly oherwydd, i'm tyb i, mae'n adleisio'r cerfiadau cerrig yng Nghadeirlan Tyddewi, Sir Benfro) y mae marciau fel pe bai wedi'i ddeifio gan brocer iasboeth - " As black as a burn,"chwedl y bardd, Nigel Wells. Mae'r geiriau canlynol o'r un gerdd, Rainey, yn disgrifio lliw rhwd-oren y gwydredd oddi tan y marciau llosg, a'r effaith y bydd y ffigur yn ei chael arnaf i.

"in his flaming
Rainey comes dogging my eye"

Mae gwrthsafiad cadarn yn yr osgo, y ddwy fraich wedi'u gwthio'n ddwfn i bocedi, sbectol dywyll yn cuddio'i drem; mae o'n dywyll, yn sinistr, yn ddialgar ac yn chwerthinllyd, yn ddihiryn o bethau dynol, sy'n amlygu llawer iawn o briodweddau'r cymeriad trasig. Llwynog dialgar Jacobïaidd i'r 21ain ganrif ydyw. Mae gan y trydydd, " Cwningen-Negesydd", (sy'n f'atgoffa, fel y gwna llawer iawn o greaduriaid clustiau cwningen Meri Wells, o greadigaeth Lewis Carroll yn Through The Looking Glass) y trwyn dynol hollbresennol i'w weld yn llawer iawn o'r hyn y bydd Meri Wells yn cyfeirio atynt fel ei "chyfarwyddion", â'r geg sydd ar fin troi'n agorfa ddynol, lawn a synhwyrus, neu ar fin troi'n ôl at fod yn geg cwningen. Datblygiad diweddar yw'r marciau ar y torso: croesau llydain y naill y tu mewn i'r llall, â thrionglau bobtu iddynt. Fel y marciau llosg ar Rainey Foxfriar, maent yn edrych fel olion brandio. Mae'r clustiau'n gryf, yn gyhyrog ac yn ffalig. Mae'r llygaid yn bryderus braidd, fel pe bai ar ruthr. Yn yr oriel fechan yng Nghaecarrog, ceir Negesydd arall sy'n sefyll oddeutu 45cm o daldra, gydag un fraich, y llaw wedi'i rhoi mewn poced, a'r bawd wedi'i fachu dros yr ymyl. Mae'r traed yn ewynnog, yn grafangau gafaelgar sy'n ymdoddi yn draed dynol mewn sliperi. Lliw slafan dw^r yw'r diwnig hir gyda chroes binc-lwyd yn gorchuddio'r frist, yn adleisio cerdd Ted Hughes, Gog

"blood-crossed Knight, the Holy Warrior, hooded with
iron, the seraph of the bleak edge."

Yn wahanol ac yn rhyfeddol, saif creadur sydd ag adenydd yn lle clustiau, â chorn crwm ar ei ben, llygaid gwyllt ac, eto byth, y trwyn sensitif, rhywiog a'r genau sy'n ymdreiglo'n geg cwningen. Â'i draed cennog a sglein efydd tywyll ei groen, mae'r Mr Tumnus trist a sinistr yma, unwaith eto'n dangos croestoriad o weddau emosiynol, a meddwl, sydd mewn helmed gorniog, adeiniog, ac sy'n dyheu am fynd y tu hwnt i drymder y corff. Mae tri ffigur trithroed, fforchog eu hewin, yn sefyll â'i gilydd, yn ficrocosm o'r sw^ mytholegol a grëwyd gan Meri Wells, Llygaid tyner sydd gan y morfarch sydd ag asgell yn lle mwng a chwyrliadau duon ar hyd ei gorff crwm. Yn llathraidd, plyga am nôl wrth gael ei dynnu gan y llanw neu'i chwythu gan y gwynt. Drws nesaf i'r rhith yma y mae'r Benglog Goronog, ei ên yn ymwthio ymlaen gan noethi'i ddannedd. Mae un aden wedi'i gollwng yn dynn i'r corff, delir y llall yn gadarn, gan ychwanegu at yr osgo ymosodol. Gorwedd y diwnig rydlyd yn wastad yn erbyn y corff fel pe bai'r ffigur yn sefyll yn y gwynt. Saif un o'r 'Pennau Maluriedig Corniog' yn ymyl y ddau yma - ffigur tawelach, mwy gwylaidd yw hwn, sy'n cario cwpan cymun, rhyw fawd bach yn gwthio allan i gynnal y llaw sy'n ei ddal. Dyma sy'n ei ddiffinio'n llwyr, drwy'r eitem werthfawr hon rydym yn ei adnabod. Mae eiconograffeg grefyddol wedi'i gwasgaru ledled y casgliad hwn, â'i adleisiau o feitrau esgobion, dillad duon yr offeiriad a beibl. Yn chwarae ochr yn ochr â hyn, ceir awgrymiadau o'r ochr dywyll, y cysgodion. Mae yna adar, tebyg i'r rhai a beintiwyd gan Bosch a chanddynt bigau sydd wedi troi i fyny er bod eu cyrff yn gwadu'r posibilrwydd y gallant hedeg. Mae'r gwyliwr yn gwenu; mae yna ymdeimlad â'r chwerthinllyd sy'n cael ei ennyn gan yr hetiau rhyfedd sydd am eu pennau.

Rhaid gweld y creaduriaid hyn i'w credu. Mae Meri Wells wedi llwyddo i greu plastigrwydd a symudiad a theimlad mewn ffurfiau cerameg sy'n ennyn rhyfeddod ac sy'n her i'r dychymyg.


"Yn nwfn yr eigion, tyfasant grogennau gan genhedlu
A'u cael eu hunain yn hollol unig; sugnasant er symud
a bodoli, gan chwyddo'u llun drwy gysur y môr,

Rhagddi y nofiai'r broses ..... "